Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 33 oed yn Lerpwl, wrth i gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl ddathlu eu buddugoliaeth yng Nghynghrair y Pencampwyr neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 1).

Cafodd dau ddyn, 19 a 24 oed, o Toxteth eu harestio yn dilyn y digwyddiad mewn dau far yng nghanol y ddinas am oddeutu 3 o’r gloch y bore.

Cafwyd hyd i ddau ddyn oedd wedi cael eu trywanu, ac fe gafodd trydydd dyn ei arestio yn yr ardal.

Bu farw’r dyn 33 oed yn yr ysbyty, a chafodd y dyn 24 oed ei arestio ar ôl cael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i’w fraich.

Dywed yr heddlu fod y dynion oedd ynghlwm wrth y digwyddiad i gyd yn adnabod ei gilydd, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.