Mae Donald Trump wedi datgan ei gefnogaeth i gais Boris Johnson i fod yn Brif Weinidog wrth iddo gychwyn ar ymweliad tridiau â Phrydain.

Dywed arlywydd America ei fod yn credu y byddai’r cyn-ysgrifennydd tramor yn gwneud olynydd “rhagorol” i Theresa May.

“Dw i’n meddwl y byddai Boris yn gwneud job dda iawn,” meddai mewn cyfweliad â phapur newydd The Sun. “Dw i’n leicio fo. Dw i bob amser wedi’i leicio fo. Dw i’n meddwl ei fod yn foi da iawn, yn berson dawnus iawn.

“Mae wedi bod ag agwedd gadarnhaol iawn amdanaf fi a fy ngwlad.”

Dywed hefyd fod ymgeiswyr eraill yn y ras wedi gofyn iddo am ei gymeradwyaeth.

Mae Donald Trump wedi datgan ei edmygedd o Boris Johnson ac o Nigel Farage yn y gorffennol.

Mae disgwyl y bydd yn cyfarfod Boris Johnson, ond mae Nigel Farage yn honni ei fod wedi cael ei “wahardd” rhag ei gyfarfod.