Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy poblogaidd na’r un blaid arall am y tro cyntaf ers naw mlynedd, yn ôl pôl piniwn ar gyfer papur newydd The Times.

Wrth gael eu holi am sut y bydden nhw yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol, dywedodd 24% y bydden nhw yn dewis y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd 22% am gefnogi’r Brexit Party, ac fe gafodd Llafur a’r Ceidwadwyr 19% yr un.

Ac roedd 16% am ddewis cefnogi pleidiau eraill.

Ar sail canlyniadau’r arolwg, byddai gan y Blaid Lafur y nifer fwyaf o seddi yn Nhŷ’r Cyffredin, ond ni fyddai ganddyn nhw fwyafrif.

Fe holodd YouGov 1,736 o oedolion ledled Prydain ar gyfer yr arolwg.