Mae cydweithwyr agosaf Jeremy Corbyn yn credu bod ei agwedd lugoer at ail refferendwm Brexit yn “boncyrs”, yn ôl Alastair Campbell.

Ac mae’r dyn fu yn un o geffylau blaen Llafur Newydd yn nyddiau Tony Blair, wedi enwi llu o aelodau’r Cabinet Cysgodol sy’n anghytuno â safbwynt Brexit Arweinydd Llafur.

Mae Alastair Campbell yn ymgyrchu tros ail refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mewn cyfweliad ar Radio 4 y BBC mae wedi dweud bod sawl un o gabinet cysgodol Llafur yn anghytuno gydag agwedd llugoer Jeremy Corbyn tuag at ail refferendwm.

“Mae pobol fel Keir Starmer a John McDonnell wedi ei gwneud yn glir i mi [eu bod yn anghytuno gyda Jeremy Corbyn ar fater ail refferendwm],” meddai Alastair Campbell.

“Ac rydw i wedi clywed hynny yn gyhoeddus gan Shami Chakrabarti, gan Tom Watson, Emily Thornberry.

“Maen nhw i gyd yn meddwl bod y penderfyniad yn boncyrs a bod angen ei adolygu.”