Mae ymgyrchwyr yn pwyso am newidadau brys i’r trefniadau yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Rhaid ysgubo’r drefn o benodi Arglwyddi heb eu hethol o’r neilltu, a chael rhai sydd wedi eu hethol gan y bobol, yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.
Daw’r alwad yn dilyn ymchwiliad gan bapur newydd The Guardian ynghylch ymddygiad un o Arglwyddi’r Blaid Lafur.
Fe hawliodd yr Arglwydd Brookman bron i £50,000 o gostau am deithio i, a mynychu Tŷ’r Arglwyddi y llynedd.
Ond er iddo hawlio’r arian, ni siaradodd yr Arglwydd Brooman unwaith yn ystod y flwyddyn, na gofyn unrhyw gwestiynau ysgrifenedig ychwaith.
Roedd yr Arglwydd Brookman yn un o ddwsinau o Arglwyddi na gyfranodd at unrhyw drafodaeth, er iddyn nhw hawlio costau.
“Dyma sgandal barhaus a hirhoedlog yn Nhŷ’r Arglwyddi, a does dim arwydd ei bod am ddod i ben,” meddai Willie Sullivan ar ran y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.
“Dim ond dwy flynedd ers i ni ddarganfod achosion tebyg o gamddefnydd difrifol a diffyg gweithredu tra yn hawlio costau, mae llawer o Arglwyddi anetholedig yn dal i drin ein Senedd fel clwb preifat sy’n cael ei ariannu gan y trethdalwyr.”