Mae’r Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid wedi cyhoeddi ei fod yn ymuno a’r ras i olynu Theresa May ar ôl iddi gyhoeddi ei bwriad i ymddiswyddo wythnos ddiwethaf.
Yr Ysgrifennydd Cartref yw’r nawfed Aelod Seneddol i ymuno a’r gystadleuaeth.
Cafodd Sajid Javid ei ethol yn AS Bromsgrove yn 2010 ac mae wedi cael ei benodi i nifer o swyddi gweinidogol ers hynny. Cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Cartref ym mis Ebrill 2018.
Dywedodd bod angen “adfer ymddiriedaeth, dod ag undod a chreu cyfleoedd newydd ar draws y Deyrnas Gyfunol.”
Roedd Sajid Javid, 49 oed, o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y refferendwm ond mae bellach yn cefnogi Brexit.
“Yn gyntaf, ac yn fwy na dim, mae’n rhaid i ni ddelifro Brexit,” meddai.