Mae Llafur yn yr Alban wedi cael y canlyniadau gwaethaf yn hanes y blaid mewn etholiadau Ewropeaidd.

Ac mae dau Aelod Seneddol, Ian Murray a Martin Whitfield, wedi rhybuddio bod etholwyr yn yr Alban wedi cyhoeddi “dyfarniad damniol” am y blaid, sydd wedi colli dau o’i Haelodau Seneddol Ewropeaidd (ASE) o’r Alban.

Roedd David Martin wedi bod yn ASE ers 35 mlynedd cyn colli ei sedd yn yr etholiadau. Mae wedi rhoi’r bai ar fethiant Llafur i ddatgan “neges glir” am Brexit.

Dywedodd Ian Murray a Martin Whitfield bod yn rhaid i Jeremy Corbyn ac arweinydd Llafur yn yr Alban Richard Leonard gymryd y canlyniadau o ddifrif.

Roedd pleidleiswyr wedi dweud wrthyn nhw “eu bod yn teimlo nad oedd dewis ond cefnogi pleidiau oedd yn frwd dros aros [yn yr Undeb Ewropeaidd] yn hytrach na’r blaid Lafur,” meddai’r ddau.

Yn ôl yr ASau fe allen nhw fod wedi ennill mewn llefydd fel Caeredin ac East Lothian petai’r blaid wedi dangos “ymrwymiad clir i aros yn rhan o’r UE.”

Maen nhw hefyd wedi beirniadu Llafur yn yr Alban gan ddweud y gallai’r blaid for “wedi dewis llwybr gwahanol iawn.”