Fe fydd dyn a dynes yn mynd gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio dau fachgen 13 ac 14 yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Sheffield ddydd Gwener.

Mae’r ddynes hefyd yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Fe fydd y ddynes 34 oed a’r dyn 37 oed yn mynd gerbron ynadon Sheffield heddiw (dydd Llun, Mai 27). Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog na ellir cyhoeddi enwau’r ddau am resymau cyfreithiol.

Yn ôl yr heddlu mae pedwar o blant eraill gafodd eu “hachub” o’r tŷ bellach wedi gadael yr ysbyty. Maen nhw’n 11, 10, 3 a saith mis oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Shiregreen tua 7.30yb ddydd Gwener. Nid yw’r heddlu wedi datgelu manylion am natur y digwyddiad ond maen nhw wedi cadarnhau nad oedd yn achos o saethu.