Mae’r Ceidwadwyr wedi cael cweir gan Blaid Brexit Nigel Farage mewn canlyniadau dramatig yn yr etholiadau Ewropeaidd.

Roedd y bleidlais i’r Torïaid wedi gostwng i 9% yn unig yng Nghymru a Lloegr ac mae’n ymddangos mai dyma fydd eu canlyniadau gwaethaf. Nid oes darlun llawn o ganlyniadau’r Alban hyd yn hyn.

Noson siomedig gafodd Llafur hefyd gyda phleidleiswyr yn rhanedig rhwng yr hyn mae Nigel Farage yn ei gynnig a’r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Ar ôl i’r canlyniadau yng Nghymru a Lloegr gael eu cyfrif, roedd y Ceidwadwyr yn y pumed safle gyda Phlaid Brexit ar 33%, Llafur 21%, a’r Gwyrddion ar 12%.

Dim ond tri Cheidwadwr gafodd eu hethol yng Nghymru a Lloegr, gyda Phlaid Brexit yn ennill 28 sedd. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol bellach wedi ennill 15 sedd yn Senedd Ewrop ar ôl gostwng i ddim ond un Aelod Seneddol Ewropeaidd yn 2014.

Mae gan Lafur 10 sedd, sydd wedi haneru o 20, a’r Gwyrddion wedi ennill saith sedd.

Ni fydd canlyniadau’r Alban yn cael eu cyhoeddi tan yn ddiweddarach heddiw (dydd Llun, Mai 27) ond mae’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon wedi datgan bod ei phlaid, yr SNP, wedi sicrhau buddugoliaeth “bendant” a’u bod nhw wedi ennill tair o’r chwe sedd sydd ar gael.

Mewn neges i San Steffan, dywedodd Nigel Farage: “Os nad ydyn ni’n gadael ar Hydref 31 yna fe fydd y canlyniadau ry’ch chi wedi gweld i Blaid Brexit heddiw yn cael eu hail-adrodd mewn etholiad cyffredinol, ac ry’n ni’n paratoi ar gyfer hynny.”

Mae wedi galw unwaith eto am ganiatáu i Blaid Brexit fod yn rhan o’r trafodaethau cyn y dyddiad terfyn ar Hydref 31.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt, sydd hefyd yn bwriadu cystadlu am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol, wedi dweud bod y blaid yn wynebu brwydr sylweddol oni bai ei bod yn delifro Brexit.

Roedd ’na raniadau amlwg yn y Blaid lafur hefyd gyda beirniadaeth o strategaeth Jeremy Corbyn a diffyg neges glir. Mae’r arweinydd wedi awgrymu y gallai fod yn barod i ail-ystyried ar ôl iddo ddod dan bwysau i gefnogi ail refferendwm.