Mae dyn a dynes a gafodd eu harestio yn dilyn marwolaeth dau fachgen mewn eiddo yn Sheffield wedi cael eu cyhuddo o’u llofruddio.

Cafwyd hyd i’r bechgyn 13 a 14 oed mewn eiddo yn ardal Shiregreen y ddinas, a chafodd pedwar o blant eraill – 11, 10, tair a saith mis oed – eu cludo i’r ysbyty.

Cafodd dyn 37 oed a dynes 34 oed eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.

Byddan nhw’n mynd gerbron ynadon y ddinas yfory (dydd Llun, Mai 27).

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 7.30 fore Gwener (Mai 24).

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau union natur y digwyddiad, ond dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall.