Mae pump o bobol wedi cyflwyno’u henwau ar gyfer y ras i olynu Theresa May yn arweinydd y Blaid Geidwadol a, fwy na thebyg, brif weinidog nesaf Prydain.

Daeth cadarnhad ddoe (dydd Gwener, Mai 24) y bydd hi’n camu o’r neilltu ar Fehefin 7, a’r gred yw y bydd ei holynydd yn camu i swydd y prif weinidog heb gael ei (h)ethol drwy etholiad cyffredinol.

Boris Johnson

Y ffefryn ar hyn o bryd yw Boris Johnson sydd, yn ôl adroddiadau, yn barod i sicrhau ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb os bydd rhaid.

Bu bron i gyn-Faer Llundain a’r cyn-Ysgrifennydd Tramor ddod yn arweinydd yn 2016, cyn i Michael Gove ei fradychu, yn ôl rhai, a chymryd ei le yn y ras.

Ymddiswyddodd o’r Cabinet fis Gorffennaf y llynedd tros ddiffyg datblygiadau yn y trafodaethau Brexit.

Jeremy Hunt

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor 52 oed o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm yn 2016.

Roedd yn Ysgrifennydd Iechyd cyn olynu Boris Johnson yn Ysgrifennydd Tramor fis Gorffennaf y llynedd.

Daeth cadarnhad o’i fwriad i sefyll am yr arweinyddiaeth wrth iddo annerch cynulleidfa yn ei etholaeth yn Ne Orllewin Surrey.

Esther McVey

Daeth cadarnhad o fwriad y cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau i sefyll am yr arweinyddiaeth ddoe (dydd Gwener, Mai 24).

Daeth y cyhoeddiad wrth iddi gyflwyno rhaglen radio ar orsaf LBC.

Gadawodd hi Gabinet Llywodraeth Prydain fis Tachwedd y llynedd yn sgil cynllun Brexit Theresa May, a dywedodd hi ddoe y dylid paratoi i adael heb gytundeb os bydd rhaid.

Matt Hancock

Daeth cadarnhad heddiw (dydd Sadwrn, Mai 25) o fwriad Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd 40 oed, i sefyll yn y ras.

Ac yntau’n arbenigo mewn technoleg, mae’r cyn-Ysgrifennydd Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi lansio’i ap ei hun, ac mae e’n frwd o blaid ei agenda trawsnewid digidol ei hun.

Mae’n ffrind agos i George Osborne a David Cameron.

Rory Stewart

Daeth y newyddion am fwriad Rory Stewart, yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol newydd, i sefyll yn y ras fis diwethaf, mewn cyfweliad â’r Spectator.

Cafodd ei ganmol am ddweud y byddai’n gadael ei swydd yn Weinidog Carchardai pe na bai’n gallu lleihau lefelau cyffuriau a thrais yng ngharchardai gwledydd Prydain.

Roedd yr aelod seneddol 46 oed yn Weinidog yr Amgylchedd yn llywodraeth David Cameron ac yn ddiplomydd yn y Swyddfa Dramor.

Pwy arall sy’n ystyried cyflwyno’u henwau?

Yn ogystal â’r rhai sydd eisoes wedi cyflwyno’u henwau, mae lle i gredu y gallai nifer o aelodau seneddol blaenllaw eraill daflu eu henwau i’r pair wrth i’r ras boethi.

Yn eu plith mae cyn-gadeirydd Pwyllgor 1922, cyn-Ysgrifennydd Brexit, cyn-ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth, a sawl aelod blaenllaw arall o gabinet Theresa May.

Sir Graham Brady

Daeth ymddiswyddiad Syr Graham Brady o fod yn gadeirydd Pwyllgor 1922 ddoe (dydd Gwener, Mai 24), a hynny er mwyn cyflwyno’i enw ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Mae’n dweud iddo dderbyn cefnogaeth aelodau seneddol ac aelodau’r blaid.

Bu aelod seneddol Altrincham a Gorllewin Sale yn gadeirydd y pwyllgor ers bron i ddegawd, ac roedd yn aelod o gabinet cysgodol David Cameron pan oedd y Ceidwadwyr yn wrthblaid.

Dominic Raab

Mae Dominic Raab, y cyn-Ysgrifennydd Brexit 44 oed, wedi gwrthod wfftio’r posibilrwydd o gyflwyno’i enw.

Mae gan yr aelod seneddol tros Esher a Walton gyfrif Twitter yn barod ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Roedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch tros Brexit adeg y refferendwm, a fe oedd yr ail Ysgrifennydd Brexit am gyfnod rhwng Gorffennaf a Thachwedd.

Ond daeth ei ymddiswyddiad yn sgil cytundeb Theresa May.

Andrea Leadsom

Cyflwynodd Andrea Leadsom, aelod seneddol 56 oed De Swydd Northampton, ei henw i arwain y blaid pan gafodd Theresa May ei hethol, ond bu’n rhaid iddi dynnu’n ôl ar ôl gwneud sylwadau amheus am famau.

Daeth ei hymddiswyddiad o fod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ddydd Mercher (Mai 22).

Dywedodd yn y gorffennol fod aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn “ffiaidd”, ac y byddai prif weinidog pro-Brexit wedi cwblhau’r broses mewn modd boddhaol erbyn hyn.

Michael Gove

Bu’n rhaid i Michael Gove geisio adennill hygrededd ac ymddiriedaeth ei gydweithwyr ers iddo fradychu Boris Johnson yn y ras ddiwethaf am yr arweinyddiaeth.

Tynodd ei gefnogaeth yn ôl ar fore cyhoeddi’r ymgeiswyr, a chyflwyno’i enw ei hun.

Ond collodd e yn y rownd gyntaf cyn i Theresa May drechu Andrea Leadsom.

Mae e wedi amddiffyn cytundeb Brexit Theresa May yn gyhoeddus.

Penny Mordaunt

Penny Mordaunt yw’r Ysgrifennydd Amddiffyn benywaidd cyntaf erioed, ar ôl iddi olynu Gavin Williamson ddechrau’r mis ar ôl iddo yntau gael ei ddiswyddo.

Mae hi eisoes wedi ennill cefnogaeth Jacob Rees-Mogg.

Roedd hi’n gystadleuydd yn y rhaglen deledu Splash! yn 2014.

Roedd aelod seneddol Portsmouth wedi cefnogi Andrea Leadsom yn y ras flaenorol.

Sajid Javid

Mae Sajid Javid eisoes wedi bod yn trafod ei weledigaeth ar gyfer y blaid yn y Spectator.

Roedd e o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm, ond mae e bellach yn dweud ei fod e’n gadarn o blaid gadael.

Cafodd yr aelod seneddol 49 oed o Rochdale ei benodi’n Ysgrifennydd Cartref yn 2018, y person cyntaf o dras ethnig lleiafrifol i dderbyn y swydd.

Mae’n fab i yrrwr bws o Bacistan, ac yn gyn-gyfarwyddwr y Deutsche Bank.