Mae WikiLeaks wedi annog yr Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid i atal Julian Assange rhag cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau i wynebu cyhuddiadau newydd o ysbio.

Dywedodd y sefydliad bod Sajid Javid “dan bwysau aruthrol i ddiogelu hawliau rhyddid y wasg yng ngwledydd Prydain a llefydd eraill”.

Mae sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange, yn wynebu 18 o gyhuddiadau newydd gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau.

Mae Julian Assange, 47 oed, yn cael ei gadw yn y carchar ar hyn o bryd ac mae’n wynebu cyhuddiadau sy’n ymwneud a’i rôl honedig i gael mynediad at wybodaeth gyfrinachol yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r Adran Gyfiawnder yn honni bod Julian Assange wedi “peri risg difrifol i ffynonellau gafodd eu henwi” mewn dogfennau cyfrinachol a gafodd eu cyhoeddi.

Cafodd Julian Assange ei lusgo o lysgenhadaeth Ecwador yn Llundain fis diwethaf, saith mlynedd ar ôl iddo gael lloches wleidyddol yno. Roedd wedi ei garcharu am 50 wythnos am dorri amodau ei fechnïaeth ac mae’n brwydro yn erbyn cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.

Ar ôl iddo gael ei arestio dywedodd Sajid Javid mai mater i’r llysoedd fyddai penderfynu os oes rheswm cyfreithiol pam na ddylai Julian Assange gael ei estraddodi.