Mae miloedd o swyddi yn y fantol wedi i gwmni British Steel fynd i’r wal.

Daw ar ôl i’r cwmni fethu â derbyn nawdd ariannol gan Lywodraeth Prydain er mwyn diogelu ei dyfodol.

Roedd perchennog British Steel, Greybull Capital, wedi bod yn cynnal trafodaethau â’r Llywodraeth, gan ddweud bod angen cefnogaeth arnyn nhw yn wyneb nifer o broblemau sy’n ymwneud â Brexit.

Y safle a fydd yn cael ei heffeithio fwyaf gan y cyhoeddiad diweddaraf fydd yr un yn Scunthorpe yng Ngogledd Lincolnshire, sy’n cyflogi mwy na 4,000 o weithwyr.

Mewn ymateb, dywed yr Ysgrifennydd Brexit, Greg Clark, y byddai’n ymdrechu yn ystod yr wythnosau nesaf i geisio sicrhau bod y safleoedd yn Scunthorpe, Skinningrove a Teesside yn parhau’n agored.