Mae arbenigwr tlodi’r Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi asesiad ynglŷn â llymder yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl Philip Alston, sy’n arbenigwr ar dlodi a hawliau dynol, mae toriadau ar fudd-daliadau wedi cael effaith pellach ar dlodi.

Mae ei adroddiad, sy’n seiliedig ar ymchwil ym mis Tachwedd y llynedd, yn dweud – er mai gwledydd Prydain yw’r pumed economi fwyaf yn y byd – mae un rhan o bump, 14 miliwn, o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi.

“Mae llawer o’r glud sydd wedi dal cymdeithas gwledydd Prydain gyda’i gilydd ers yr Ail Ryfel Byd wedi cael ei symud yn fwriadol a’i ddisodli gan ethos caled a didrafferth,” meddai Philip Alston.

40% o blant mewn tlodi

Yn ôl yr arbenigwr, “mae disgwyl i tua 40% o blant fod mewn tlodi erbyn 2021.”

“Mae banciau bwyd wedi amlhau; mae digartrefedd a chysgu ar y stryd wedi cynyddu’n fawr; ac mae’n rhaid i ddegau o filoedd o deuluoedd tlawd fyw mewn llety ymhell o’u hysgolion, swyddi a rhwydweithiau cymunedol,” meddai.

Yn ôl Ysgrifennydd Cysgodol Gwaith a Phensiynau Llafur, Margaret Greenwood mae’r adroddiad yn “frawychus,”

“Dylai’r dystiolaeth fod yn gywilydd i’r llywodraeth hon, o bobol yn cael eu gyrru i ddyled oherwydd yr aros am Gredyd Cynhwysol, i’r rhai sydd mewn perygl o gael eu hamddifadu oherwydd y drefn gosbau llym.”