Mae’r Prif Weindog Theresa May yn galw ar arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, i gyfaddawdu a chefnogi ei chytundeb Brexit.

Daw’r gofyn i i’w chynigion fod yn destun i wrthwynebiad chwyrn gan Dorïaid yn ei phlaid.

Mae’r trydydd cynnig yn agor y drws i’r posibilrwydd o ail refferendwm ac yn debygol o ennyn beirniadaeth waeth gan Dorïaid.

Roedd Boris Johnson a Dominic Raab – sydd yn y ras am arweinyddiaeth y Toriaid – ymhlith y rhai oedd y tu ôl i gynnig Theresa May ym mis Mawrth eleni, ond maen nhw’n benderfynol o wrthwynebu y tro hwn.

Os nad yw’r cynnig newydd yn llwyddiannus, fe fydd pwysau enfawr ar Theresa May i gamu o’r neilltu o swydd Prif Weinidog yn syth.

Mae llawer o Dorïaid yn galw iddi wneud hynny nawr heb hyd yn oed rhoi ei hun mewn safle am fwy o rwystredigaeth drwy golli yn Nhŷ’r Cyffredin am y pedwerydd tro.

Mae Theresa May yn wynebu’r Cyffredin heddiw (Dydd Mercher, Mai 22), ac yn gobeithio y bydd ei chynllun cyfaddawd 10 pwynt yn perswadio digon o Aelodau Seneddol Llafur a’r DUP.