Bydd Aelodau Seneddol yn cael pleidleisio ar opsiwn o gynnal ail refferendwm Brexit os ydyn nhw’n cefnogi ei chytundeb, yn ôl Theresa May.

Bydd “cytundeb Brexit newydd” y Prif Weinidog yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd ym mis Mehefin.

Mewn digwyddiad yng nghanol dinas Llundain heddiw (dydd Mawrth, Mai 21), dywedodd Theresa May y bydd methiant i gytuno ar Brexit yn arwain at “ddyfodol hunllefus” i’r byd gwleidyddol.

Yn ogystal ag opsiwn o ail refferendwm, mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys “trefniadau amgen” ar gyfer Gogledd Iwerddon, yn ogystal â sicrwydd ar faterion fel hawliau gweithwyr a’r amgylchedd.

Yn ôl Theresa May, dyma fydd “y cyfle olaf” i Aelodau Seneddol gefnogi Brexit a pharchu canlyniad y refferendwm yn 2016.

“Dw i’n dweud hyn ag argyhoeddiad i bob Aelod Seneddol o bob plaid – dw i wedi cyfaddawdu,” meddai. “Dw i’n awr yn gofyn i chi gyfaddawdu hefyd.

“Rydyn ni wedi cael gorchymyn clir gan y bobol yr ydyn ni i fod eu cynrychioli. Helpwch fi, felly, i ddod o hyd i ffordd well o barchu’r gorchymyn hwnnw, i symud ein gwlad a’n gwleidyddiaeth ymlaen, ac i adeiladu gwell ddyfodol yr ydyn ni i gyd eisiau ei weld.”