Mae arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, yn cyhuddo’r Comisiwn Etholiadol o fod “yn llawn arhoswyr.”

Daw’r cyhuddiad wrth i’r Comisiwn ymweld â phencadlys y blaid yng nghanol archwiliad i’w system noddi.

Nawr mae Nigel Farage yn honni bod y rheoleiddiwr wedi’i lenwi gyda ffigurau sefydliadol ac nad yw’n sefydliad niwtral – a bod y Brexit Party yn “fwy cymwynasgar” nag unrhyw un arall sy’n sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd.

Yn ôl ymchwiliad gan Channel 4 wythnos diwethaf mae Nigel Farage wedi cael rhodd o £450 mil gan y dyn busnes Arron Banks yn y flwyddyn ar ôl refferendwm Ewrop yn 2016.

Yn dilyn hynny hefyd mae arweinydd y Brexit Party wedi labelu Channel 4 fel “gweithredwyr gwleidyddol,” gan wahardd y darlledwr o gynadleddau wasg y blaid.

Dywedodd Mr Farage fod ei blaid yn chwilio am gyfraniadau sy’n ailadrodd, a’i fod wedi anfon arian yn ôl os oedd yn ansicr o’r ffynhonnell.