Mae bwytai Jamie Oliver yng ngwledydd Prydain wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gan roi dros 1,000 o swyddi yn y fantol.

Mae’r busnes, sy’n cynnwys Jamie’s Italian, Barbecoa a Fifteen, wedi apwyntio’r cyfrifwyr KPMG ac mae disgwyl cyhoeddiad arall rhyw ben heddiw (dydd Mawrth, Mai 21).

Dywed y cogydd ar Twitter ei fod “wedi’i siomi’n fawr” a’i fod yn diolch i’r rhai wnaeth “roi eu calonnau a’u heneidiau mewn i’r busnes dros y blynyddoedd.”

Yr amcangyfrif yw y bydd 1,300 o swyddi yn cael eu colli o ganlyniad.  

Daw’r newyddion yn dilyn ymdrech y cwmni i geisio cael hyd i fuddsoddwr newydd ym mrand Jamie’s Italian, sydd â bwyty yn yr Ais yng Nghaerdydd.

Yn 2018, bu rhaid i Jamie’s Italian gau 12 allan o 37 o’i fwytai a gorfodwyd iddo werthu pum cangen yn Awstralia.