Mae dau bobol wedi marw ar ôl i’w car fynd ar ei ben i mewn i afon.
Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi i Mini Cooper o liw llwyd adael y ffordd tua 3.40yb yn Lydd, Kent.
Fe gafodd tri o bobol eu tynnu alla o’r cerbyd gan y gwasanaethau brys a’u cludo i’r ysbyty.
Bu farw dyn a dynes yn yr ysbyty.
Mae dyn arall wedi’i anfon gartref o’r ysbyty gyda mân anafiadau.