Mae cychod yn cario 20 o ffoaduriaid wedi cael eu rhwystro oddi ar arfordir swydd Kent yn ne-ddwyrain Lloegr.

Fe gafodd awyddogion y Border Force eu galw i ddau ddigwyddiad yn y Sianel ddydd Sadwrn (Mai 18).

Fe gafodd un cwch yn cario 11 o ddynion ei rwystro am 5.50yb, a’r/ffoaduriaid yn hanu o wlad yr Iorddonen

Yna, am 7.50yb, fe gafodd yr awdurdodau eu galw eto i’r un ardal ac at gwch yn cario naw o ffoaduriaid – chwe dyn a thair dynes o Irac ac Iran.