Mae diffoddwyr tân wedi bod yn ymladd tân anferthol ar weundir Ilkley Moor yng Ngorllewin Swydd Efrog.

Mae ffyrdd yn dal ar gau ar ôl i griwiau 10 injan dân fod wrthi drwy’r bore, ac mae adroddiadau am gymylau o fwg i’w gweld dros ardal eang.

Dyma’r ail ddigwyddiad o’r fath yn yr ardal ar tân tebyg dros benwythnos y Pasg.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Swydd Efrog fod y tân bellach o dan reolaeth.