Mae Nigel Farage yn apelio am gefnogaeth cenedlaetholwyr yr Alban i’w blaid Brexit, gan ddadlau nad oes obaith am annibyniaeth i’w gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n cyhuddo Nicola Sturgeon o anonestrwydd wrth ddadlau y byddai’r Alban yn annibynnol wrth wahanu oddi wrth Brydain ond gan aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Allwch chi ddim bod yn annibynnol os ydych chi’n cael eich llywodraethu gan Lys Cyfiawnder Ewrop,” meddai. “Allwch chi ddim bod yn annibynnol os ydych chi yn undeb tollau a marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd. Allwch chi ddim bod yn annibynnol os ydych chi’n cael eich llywodraethu gan Monsieur Barnier a Mr Juncker.”

Gan honni bod tua 30% o gefnogwyr yr SNP o blaid Brexit, mae Nigel Farage yn gofyn iddyn nhw ‘fenthyg’ eu pleidlais iddo.

“Gadewch inni adael yr Undeb Ewropeaidd ac wedyn cael trafodaeth onest ar ddyfodol yr Alban,” meddai.

Dywedodd na fyddai’n ceisio rhwystro ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, ond ei fod o’r farn na ddylai ddigwydd am amser maith iawn.