Mae pedoffeil asgell-dde, a gynllwyniodd i ladd yr Aelod Seneddol Llafur, Rosie Cooper, wedi ei garcharu am o leiaf ugain mlynedd.

Roedd Jack Renshaw, 23, wedi prynu cyllell 19 modfedd gyda’r bwriad o ladd yr aelod tros  Orllewin Swydd Gaerhirfryn, yn ogystal â dial ar y blismones Victoria Henderson, a oedd yn ymchwilio i achosion o droseddau rhyw yn ei erbyn.

Mae’n debyg iddo hefyd ymchwilio i wahanol ffyrdd o ladd a chymryd cofnod o amserlen Rosie Cooper wrth iddo ffurfio ei gynllwyn.

Fe ddaeth ei fwriad dieflig i’r amlwg ar ôl i berson glywed Jack Renshaw yn siarad mewn tafarn ym mis Gorffennaf 2017 – flwyddyn ar ôl i’r Aelod Seneddol, Jo Cox, gael ei lladd gan eithafwr asgell-dde.

Wrth dderbyn ei ddedfryd yn yr Old Bailey, mae’n debyg bod Jack Renshaw o Skelmersdale, Swydd Gaerhirfryn, wedi gwneud arwydd gyda’i law a oedd yn debyg i saliwt Natsiaidd.

Tua’r un adeg, roedd ei gefnogwyr yn y galeri yn gweiddi: ‘Rydyn ni efo ti, Jack’.