Mae Cadeirydd Pwyllgor Brexit Llafur, Hilary Benn, yn dweud bod “dim pwynt” i drafodaethau Brexit Llafur a’r Ceidwadwyr barhau.

“Tydi hi ddim yn syndod nad oes datblygiad wedi digwydd dros y chwech wythnos maen nhw wedi bod yn trafod,” meddai ar raglen Today BBC Radio 4.

“Os nad oes unrhyw ddatblygiad am ddod, does dim pwynt parhau.”

Mae gobeithion y Prif Weinidog, Theresa May, o gael cefnogaeth Llafur i’w chytundeb yn diflannu’n araf yng nghanol rhwystredigaeth Jeremy Corbyn gyda’r diffyg cynnydd yn y trafodaethau.

Yn ôl adroddiadau’r BBC, mae trafodaethau rhwng y ddwy blaid wedi dod i ben heb gytundeb.

 “Methu creu pontydd”

Mewn llythyr i’r Prif Weinidog, Theresa May, dywed arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, bod y trafodaethau wedi mynd “cyn belled ag y gallan nhw”.

“Mae hi wedi dod yn amlwg, er bod rhai meysydd lle mae cyfaddawd wedi bod yn bosib, nad ydym wedi gallu creu pontydd o ran bylchau polisïau sydd rhyngom.

“Yn fwy na hynny, mae gwendid ac ansefydlogrwydd cynyddol eich llywodraeth yn golygu na allwn fod yn hyderus y bydd be bynnag sy’n cael ei gytuno yn mynd drwyddo.”

Fe fydd Llafur yn parhau i wrthwynebu cytundeb Brexit Theresa May.

 “Y ddau eisiau Brexit”

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, yr “unig opsiwn ar ôl yw cynnal pleidlais y bobol”.

“Mae’r Ceidwadwyr a Llafur yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau Brexit, felly mewn llawer o ffurf mae’n syndod nad oes cytundeb wedi’i wneud,” meddai.

“Rydym yn gwybod, p’un a yw’n Brexit coch, glas neu unrhyw liw arall, bydd Cymru yn wynebu canlyniadau economaidd difrifol. Fel Plaid Cymru, ni allwn adael i’n gwlad gael ei niweidio o ganlyniad i anallu San Steffan.”