Fe fydd Theresa May yn gosod amserlen ar gyfer gadael rhif 10 Downing Street, gan wneud cyhoeddiad ymhen ychydig tros bythefnos.

Ac mae ei harch-elyn, Boris Johnson, eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn un o’r cystadleuwyr pan fydd hynny’n digwydd.

Ar ôl cyfarfod rhyngddi hi a phwyllgor gwaith y 1922 Committee yn San Steffan, fe gyhoeddodd Cadeirydd y Pwyllgor, Graham Brady, y byddai ef a hi’n cyfarfod eto yn union ar ôl y bleidlais nesa’ ar ei chytundeb Brexit.

Dyna pryd y byddan nhw, meddai ef, yn cytuno ar fanylion ei dyddiad gadael a’r drefn i ethol arweinydd newydd i’r Blaid Geidwadol.

Fe fydd hynny’n digwydd pa un ai yw hi’n ennill y bleidlais – ar Ail Ddarlleniad Mesur y Cytundeb Gadael – ai peidio.

Mae’r pwysau ar Theresa May i ymddiswyddo wedi bod yn cynyddu’n gyson ac mae’n debyg o gryfhau eto os bydd y Ceidwadwyr yn cael cweir ddifrifol yn Etholiadau Ewrop.

Llyfr Cameron ar y ffordd

O leia’, fe fydd ganddi rywbeth i’w ddarllen ar ôl mynd – mae’r cyhoeddwyr William Collins wedi rhoi gwybod y bydd hunangofiant y cyn-Brif Weinidog, David Cameron, ar werth ym mis Medi.

Fe fydd hynny rhyw fis a hanner cyn y dyddiad diweddara’ i adael yr Undeb  Ewropeaidd ac mae’n addo egluro’i safbwynt ar refferendwm Ewrop a Brexit.