Mae’r cyflwynydd teledu Jeremy Kyle yn dweud ei fod ef a’i dîm wedi eu siomi’n ofnadwy gan y penderfyniad i ddileu eu sioe ddadleuol, The Jeremy Kyle Show.

Mae pwyllgor o aelodau seneddol a’r corff rheoleiddio Ofcom hefyd wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliadau i’r rhaglen ar ôl i ddyn 63 oed ladd ei hun ar ôl ymddangos arni.

Fe fyddan nhw’n edrych ar safonau gofal rhaglenni teledu o’r fath, lle mae cyfranwyr yn cael eu hannog i ddadlau a ffraeo am eu bywydau personol.

Roedd Steve Dymond wedi lladd ei hun ar ôl methu prawf celwydd ar y rhaglen – roedd wedi gobeithio profi i’w gariad nad oedd yn ei thwyllo.

Ymchwiliadau

Fe gyhoeddodd ITV ddoe y byddai’r rhaglen yn dod i ben ar ôl 14 o flynyddoedd ond mae beirniaid wedi holi pam fod yr awdurdodau wedi aros cyhyd cyn gweithredu.

“Mae rhaglenni fel The Jeremy Kyle Show mewn peryg o roi pobol a allai fod yn fregus ar lwyfan cyhoeddus ar adeg yn eu bywydau pan na fyddan nhw’n gallu rhagweld y canlyniadau iddyn nhw eu hunain na’u teuluoedd,” meddai Damian Collins, Cadeirydd Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Nhŷ’r Cyffredin.

The Jeremy Kyle Show oedd y rhaglen fwya’ poblogaidd ar deledu dydd.