Mae ITV wedi cyhoeddi ei fod yn tynnu rhaglen The Jeremy Kyle Show “am byth” yn dilyn marwolaeth gwestai.

“O ystyried difrifoldeb digwyddiadau diweddar, rydym wedi penderfynu gorffen cynhyrchu The Jeremy Kyle Show,” dywedodd prif weithredwr ITV, Carolyn McCall.

Roedd Steve Dymond, 63, wedi cymryd prawf celwydd er mwyn darbwyllo ei ddyweddi Jane Callaghan nad oedd wedi bod yn anffyddlon.

Fe fethodd y prawf, ac fe wahanodd y ddau fel canlyniad.

Daethpwyd o hyd i gorff Mr Dymond mewn ty yn Grafton Street, Portsmouth, ar Fai 9.

Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner, meddai Heddlu Hampshire.

Dywed ITV fod pawb yn y sioe yn “yn drist ac mewn sioc” a bod eu “meddyliau gyda’r teulu a ffrindiau.”