Mae angen cymryd camau i warchod sgwarnogod yn ystod tymor bridio yng Nghymru a Lloegr, yn ôl cyn gweinidog amaeth y Ceidwadwyr.

Yn ôl George Eustice, mae cyfreithiau saethu sgwarnogod yn “anobeithiol o hen ffasiwn” ac mae niferoedd yr anifeiliaid gwyllt yn disgyn yn sylweddol.

Ei awgrym yw creu gyfreithiau newydd i wahardd lladd neu gymryd sgwarnogod yn ystod tymor bridio.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywed George Eustice bod poblogaeth sgwarnogod “wedi disgyn i 800,000 heddiw” i gymharu â’r “pedair miliwn yng nghanol ac ar ddiwedd y 19eg ganrif.”

Mae Llywodraeth gwledydd Prydain yn amcangyfrif bod tua 300,000 o sgwarnogod yn cael eu saethu bob blwyddyn, ac yn amlach yn ystod mis Chwefror a Mawrth.

Byddai Mesur Cadw Sgwarnogod yn cymryd lle’r hen system, gan wahardd yn benodol “ladd neu gymryd” sgwarnogod yn ystod y tymor bridio, meddai George Eustice.