Mae Downing Street yn ceisio darbwyllo Torïaid nad oes rheswm i boeni am y posibilrwydd o raniadau yn y blaid dros drafodaethau Brexit gyda Llafur.

Cafodd y Prif Weinidog, Theresa May, ei rhybuddio gan Dorïaid ei bod hi’n risgio colli “canol teyrngar” y Blaid os yw’n agor y drws i undeb tollau.

Dywed na fyddai Llywodraeth gwledydd Prydain yn rhoi mewn i undeb tollau “parhaol” ac mai “dros dro” fyddai unrhyw gyfaddawd.

Mae 13 o gyn gweinidogion, ar y cyd gyda chadeirydd Pwyllgor 1922 y Torïaid – Sir Graham Brady, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn erfyn arni i beidio rhoi mewn i alwadau Llafur.

Ymhlith rhain mae Gavin Williamson, a gafodd ei ddiswyddo gan Theresa May fel ysgrifennydd amddiffyn, a chystadleuwyr posibl am yr arweinyddiaeth – Boris Johnson a Dominic Raab.

“Ni fyddwn yn ymrwymo i undeb tollau parhaol,” dywed ffynhonnell Rhif 10:

“Rydym yn ceisio dod o hyd i gyfaddawd ar arferion fel cytundeb dros dro.”