Ar gyfartaledd mae’r gweithiwr arferol yn colli £17 yr wythnos i gymharu â degawd yn ôl, ond mae cyflogau bancwyr i fyny £120 yr wythnos, yn ôl astudiaeth newydd.

Nyrsys ac athrawon sydd yn cael eu taro fwyaf, wrth i’r rheiny sy’n gweithio mewn iechyd, gwaith cymdeithasol, neu addysg gael £36 yn llai na fydden nhw yn 2009.

Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan Gyngres yr Undebau Llafur sy’n dweud ei fod yn glir yn ganlyniad o benderfyniad Llywodraeth gwledydd Prydain i “ddal yn ôl” ar weision sifil.

Mae cyflogau’n dal i fod gwerth llai na chyn yr argyfwng ariannol ddegawd yn ôl, er bod nifer fach o ddiwydiannau wedi torri’r duedd honno, meddai’r Gyngres.

Yn y sector ariannol, mae cyflogau wedi cynyddu 9.3% neu £119 yr wythnos, mae’r ymchwil yn dangos.

Mae’n dangos cynnydd mewn cyflogau yn y sectorau manwerthu a lletygarwch hefyd, sy’n debygol o fod wedi digwydd oherwydd cynnydd yn yr isafswm cyflog.