Mae cyn-ysgrifennydd Clwb Pel-droed Sheffield Wednesday wedi cael dirwy o £6,500 a gorchymyn i dalu costau o £5,000 am fethu a sicrhau iechyd a diogelwch cefnogwyr ar ddiwrnod trychineb Hillsborough.

Cafodd Graham Mackrell, 69, a oedd yn swyddog diogelwch y clwb adeg y trychineb, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Preston heddiw (dydd Llun, Mai 13).

Fe’i cafwyd yn euog o esgeuluso’i ddyletswydd yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch drwy beidio â sicrhau bod digon o gatiau ar agor er mwyn rhwystro torfeydd mawr rhag casglu tu allan i’r maes cyn y gêm.

Dim ond saith gât oedd ar gael ar gyfer 10,100 o gefnogwyr Lerpwl.

Cafodd 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl eu lladd cyn y gêm gynderfynol yng Nghwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

Dywedodd teulu un o’r rhai gafodd eu lladd yn Hillsborough bod y ddirwy yn “warthus”.

Ond dywedodd y barnwr Syr Peter Openshaw nad oedd trosedd Graham Mackrell wedi achosi’r gyflafan yn uniongyrchol.