Mae ITV wedi dweud na fydd rhaglen Jeremy Kyle yn cael ei darlledu am gyfnod amhenodol yn dilyn marwolaeth gwestai wythnos ar ôl ymddangos arni.

Fe fydd ymchwiliad i’r bennod sy’n cynnwys y person yma oherwydd “difrifoldeb y digwyddiad,” meddai’r darlledwr.

Ni chafodd pennod fore heddiw (Dydd Llun, Mai 13) ei dangos ar ôl cael ei newid i Dickinson’s Real Deal.

Dywed ITV fod pawb yn y sioe yn “yn drist ac mewn sioc” a bod eu “meddyliau gyda’r teulu a ffrindiau.”

Nid yw enw’r person oedd wedi ymddangos ar y rhaglen wedi cael ei ryddhau eto.