Mae disgwyl i Michael Gove wynebu aelodau o Senedd yr Alban yr wythnos hon (dydd Mercher, Mai 15) er mwyn ateb cwestiynau ynghylch effaith polisïau Llywodraeth Prydain ar y gwledydd datganoledig wedi Brexit.

Bydd yr Ysgrifennydd tros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ymddangos drwy gyfrwng cyswllt fideo gerbron dau bwyllgor seneddol.

Daw ar ôl i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, rybuddio bod datganoli o dan fygythiad o’r “canoli” o gyfeiriad San Steffan.

Y ddau bwyllgor fydd yn cyflwyno cwestiynau i’r Ysgrifennydd fydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir, a Phwyllgor yr Economi Wledig a Chysylltedd.

Mae aelodau o’r ddau bwyllgor yn dweud y bydd polisïau arfaethedig Llywodraeth Prydain ym meysydd amaeth, yr amgylchedd a physgota yn cael effaith fawr ar yr Alban a’r gwledydd datganoledig eraill.