Mae nifer y bobol o dan 75 oed sy’n marw o ganlyniad i glefyd y galon a chyflyrau tebyg yng ngwledydd Prydain, wedi cynyddu am y tro cyntaf mewn hanner canrif.

Mae’r ffigyrau gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn dangos bod clefyd y siwgr, gwasgedd gwaed a cholesterol uchel a gordewdra oll yn ffactorau sy’n cynyddu’r risg o farwolaethau ymhlith pobol ifanc.

Yn 2017, bu farw 42,384 o bobol yng ngwledydd Prydain o ganlyniad i broblemau â’r galon neu’r ysgyfaint cyn cyrraedd 75 oed, sef cynnydd o 3% ers 2014 (41,042).

O ran y rheiny o dan 65 oed, bu farw 18,668 yn 2017 – cynnydd o 4% mewn pum mlynedd.

Mae hyn o gymharu â’r cwymp o 19% yn ystod y pum mlynedd flaenorol.

Tan yn ddiweddar, roedd nifer y marwolaethau o ganlyniad i broblemau gyda’r galon a’r ysgyfaint wedi gostwng 75% ers 1971.

Erbyn 2030, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn gobeithio haneru marwolaethau ac anableddau sy’n cael eu hachosi gan drawiad y galon, gan sicrhau bod 90% o’r dioddefwyr yn goroesi.

“Mae angen inni weithio mewn partneriaeth â llywodraethau, y Gwasanaeth Iechyd a’r gymuned ymchwil meddygol er mwyn cynyddu’r buddsoddiad mewn ymchwil a chyflymu’r camau sy’n cael eu cymryd er mwyn sicrhau diagnosis a chefnogaeth i filiynau o bobol a all ddioddef o drawiad y galon,” meddai Simon Gillespie, Prif Weithredwr Sefydliad Prydeinig y Galon.