Fe fydd yn rhaid i gytundeb Brexit ryngbleidiol gynnwys ail refferendwm ar y telerau er mwyn cael cefnogaeth Aelodau Seneddol Llafur, yn ôl Syr Keir Starmer.

Fe rybuddiodd yr Ysgrifennydd Brexit cysgodol y byddai’n “amhosib” gweld sut fyddai cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yn cael ei gymeradwyo yn Nhŷ’r Cyffredin oni bai bod sicrhad y byddai’r cyhoedd yn cael pleidleisio ar y cytundeb.

Daw sylwadau Keir Starmer cyn i drafodaethau rhwng gweinidogion y Cabinet ac aelodau blaenllaw o’r Blaid Lafur ail-ddechrau ddydd Llun (Mai 13).

Mae ’na ddyfalu a fydd y trafodaethau yn llwyddo.

Wrth siarad gyda The Guardian, dywedodd Keir Starmer y byddai’n rhaid i aelodau’r blaid a’r arweinydd benderfynu “yn y dyddiau nesaf” a fyddai’n werth parhau gyda’r trafodaethau.

Yn y cyfamser mae ’na adroddiadau bod y Prif Weinidog Theresa May yn cael ei hannog gan weinidogion y Cabinet i dynnu allan o’r trafodaethau a chaniatáu i Aelodau Seneddol bleidleisio ar wahanol opsiynau.