Fe fydd Graham Mackrell, cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, yn cael ei ddedfrydu mewn perthynas â thrychineb Hillsborough yfory (dydd Llun, Mai 13).

Cafodd rheithgor yn Llys y Goron Preston y dyn 69 oed yn euog o esgeuluso’i ddyletswydd yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch ar ddiwrnod y trychineb yn 1989, pan gafodd 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl eu lladd.

Clywodd y llys nad oedd e wedi sicrhau bod digon o gatiau ar agor er mwyn sicrhau na fyddai cefnogwyr yn rhuthro i’r cae cyn y gêm gyn-derfynol yng Nghwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

Dim ond saith gât oedd ar gael ar gyfer 10,100 o gefnogwyr Lerpwl.