Mae Brian Walden, y gwleidydd Llafur a darlledwr, wedi marw’n 86 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei gyfweliad â Margaret Thatcher, prif weinidog Prydain yn 1989, a oedd wedi cyfrannu at ei thranc fel gwleidydd.

Roedd yn aelod seneddol Llafur ei hun dros Birmingham Ladywood o 1964 i 1977, cyn ymuno ag ITV.

Bu farw yn ei gartref yn Guernsey ar Fai 9 o ganlyniad i salwch, ac mae’n gadael gwraig, Hazel, a phedwar o feibion. Roedd yn briod â’i wraig ers 43 o flynyddoedd.