Fe fydd y cyfresi poblogaidd Killing Eve a Bodyguard yn cystadlu am wobrau BAFTA heno (nos Sul, Mai 12) mewn seremoni arbennig yn y Royal Festival Hall yn Llundain.

Mae’r ddwy gyfres wedi’u henwebu ar gyfer gwobr y Gyfres Ddrama Orau, gyda Jodie Comer a Sandra Oh, dwy actores Killing Eve wedi’u henwebu ar gyfer gwobr yr Actores Orau.

Mae Kim Bodnia a Fiona Shaw, dwy actores arall yn y gyfres, wedi’u henwebu ar gyfer gwobr yr Actores Gynorthwyol Orau.

Er i’r gyfres gael ei darlledu yn yr Unol Daleithiau’n wreiddiol, mae’r pwyllgor sy’n gwobrwyo wedi penderfynu bod y gyfres yn gymwys.

Mae Keeley Hawes, seren Bodyguard, wedi’i henwebu ar gyfer gwobr yr Actores Orau.

Adloniant

Bydd Ant a Dec yn dychwelyd i’r carped coch eleni yn dilyn blwyddyn gythryblus i Ant McPartlin, a gafodd ei arestio am yfed a gyrru y llynedd.

Mae’r ddau wedi’u henwebu yng nghategori’r Perfformiad Adloniant Gorau yn Saturday Night Takeaway.

Mae’r rhaglen hefyd wedi’i henwebu yng nghategori’r Rhaglen Adloniant Orau, yn erbyn Britain’s Got Talent, Strictly Come Dancing a Michael McIntyre’s Big Show.

Graham Norton fydd yn cyflwyno darllediad y BBC am 8 o’r gloch.