Mae Gavin Williamson, cyn-Weinidog Amddiffyn Llywodraeth Geidwadol Prydain, yn dweud bod Theresa May yn gwneud “camgymeriad difrifol” wrth drafod Brexit â’r Blaid Lafur.

Fe gafodd ei ddiswyddo’n ddiweddar ar ôl datgelu gwybodaeth am Huawei.

Mae’n dweud mewn erthygl yn y Mail on Sunday fod Theresa May yn “wleidyddol naïf” am ddechrau trafodaethau oedd yn sicr o fethu yn y pen draw.

Dywed ei fod yn sicr y bydd y trafodaethau’n “gorffen mewn dagrau”, gan bwysleisio nad oes gorfodaeth ar Lafur i helpu’r Ceidwadwyr.

“Bydd Jeremy Corbyn yn gwneud popeth o fewn ei allu i rannu, tarfu ar y Ceidwadwyr ac achosi rhwystredigaeth iddyn nhw yn y gobaith o chwalu’r Llywodraeth.

“Ei nod, a dydy e ddim wedi cadw hyn yn gyfrinach, yw achosi etholiad cyffredinol.”

Mae e’n rhybuddio hefyd y gallai Theresa May gael cefnogaeth llai na hanner yr aelodau seneddol Ceidwadol, ac y byddai angen dod i ddealltwriaeth gyda nifer o bleidiau yn y pen draw i sicrhau cytundeb.

Arweinyddiaeth newydd?

Mae Gavin Williamson hefyd yn awgrymu bod angen arweinydd newydd ar y blaid.

“Rydym nawr ar groesffordd ac mae’n hanfodol fod y Prif Weinidog yn gwneud y penderfyniad cywir,” meddai.

“Er mwyn cyflwyno Brexit, mae angen penderfyniad clir o’r hyn rydych chi am ei gyflwyno, yn hytrach na chyflwyno’r peth lleiaf.

“Yr unig ffordd o gyflwyno unrhyw beth yw drwy sicrhau fod gennych eich llwyth eich hunan a’ch pobol eich hun gyda chi 100% o’r ffordd.

“Dyma sy’n rhaid ei gyflwyno – peidio â dod i gytundeb gyda Llafur.”