Mae’r plismon gwarchod plant amlycaf yng ngwledydd Prydain yn galw am foicot o’r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o sicrhau bod cwmnïau yn talu sylw i bryderon am gamdrin.

Dywed Simon Bailey, prif gwnstabl Heddlu Norfolk, yn dweud bod cwmnïau wedi esgeuluso eu dyletswydd, ac mai’r unig reswm maen nhw’n gwrando erbyn hyn yw eu bod yn gofidio am eu henw da.

Fyddai codi dirwy ddim yn cael effaith, meddai, ond mae’n dweud y gallai Papur Gwyn Llywodraeth Prydain newid yr hinsawdd o fewn y diwydiant pe bai’n dod â chosbau digon sylweddol yn ei sgil.

Mae’n dweud nad yw e wedi cael ei ddarbwyllo hyd yn hyn fod y cwmnïau’n gwneud digon i ddileu delweddau anweddus.

“Yn y pen draw, dw i’n meddwl mai’r unig beth y byddan nhw’n ymateb iddo yw niwed i’w brand,” meddai wrth Press Association.

“Yn y pen draw, piso dryw bach yn y môr fydd y cosbau ariannol i rai o gewri’r byd hwn.

“Ond os yw’r brand yn dechrau cael ei niweidio, a bod cwsmeriaid yn dechrau gweld sut mae rhai llwyfannau’n galluogi cam-drin ac ecsbloetio pobol ifanc, yna efallai y bydd y niwed i’r brand hwnnw mor sylweddol neu byddan nhw’n teimlo’r anghenraid i wneud rhywbeth i ymateb.”

Ymchwiliad annibynnol

Bydd ymchwiliad annibynnol yn dechrau ddydd Llun, ac yn para pythefnos.

Fe fydd yn canolbwyntio ar ymatebion cwmnïau’r we i’r broblem, wrth i benaethiaid Facebook, Google, Apple, BT a Microsoft roi tystiolaeth.

Mae Simon Bailey yn rhybuddio ei bod yn debygol bod pornograffi ar gael ym mhob maes chwarae erbyn hyn, a bod pobol ifanc yn cael gafael yn hawdd ar ddeunydd anghyfreithlon.

Mae nifer y delweddau anweddus o blant ar y we wedi codi o lai na 10,000 yn y 1990au i 13.4 miliwn erbyn hyn.

Mae ymgynghoriad ar y gweill gan Lywodraeth Prydain ar fesurau i fynd i’r afael â’r broblem, gan gynnwys y posibilrwydd o benodi rheoleiddiwr annibynnol.