Mae dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Emma Faulds sydd ar goll ers 12 diwrnod.

Gwelwyd Emma Faulds, 39, am 9.10 y nos ar Ebrill 28 yn South Ayrshire yn ardal Kilmarnock yn yr Alban.

Dywed yr heddlu fod dyn 39 oed wedi cael ei arestio a’i gyhuddo mewn cysylltiad â’i marwolaeth, er nad yw ei chorff wedi ei ddarganfod hyd yma.

Fe fydd y dyn yn ymddangos ger bron Llys Siryf Ayrshire heddiw (Dydd Gwener, Mai 10).