Mae’r comedïwr Freddie Starr wedi marw yn 76 oed yn ei gartref yn Sbaen.

Daeth Freddie Starr, oedd yn dod o Lannau Mersi yn wreiddiol, yn adnabyddus yn y 1960au pan oedd yn brif ganwr gyda’r grwp Merseybeat, y Midniters, gan ymddangos ar Opportunity Knocks yn y 1970au.

Roedd o’n adnabyddus iawn am ei ymddygiad ecsentrig a bywiog.

Yn 1986, cafodd sylw mawr am un o’r penawdau papur newydd enwocaf erioed gan The Sun: “Freddie Starr ate my hamster.”

Trwy gydol y 1990au fe gyflwynodd nifer o sioeau deledu fel Freddie Starr, The Freddie Starr Show, ac An Audience with Freddie Starr.

Yn 2012, bu’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i honiad o gam-drin rhywiol hanesyddol yn erbyn Freddie Starr. Ar ôl treulio 18 mis ar fechnïaeth, ni chafodd Freddie Starr ei erlyn yn 2014.

Roedd wedi colli cais am iawndal yn erbyn ei gyhuddwr yn yr Uchel Lys yn 2015. Yna, fe symudodd i Sbaen yn dilyn y dyfarniad.