Mae bron i hanner (45%) oedolion gwledydd Prydain yn dioddef o boen yn eu cymalau, gyda dros 23% yn dweud eu bod mewn poen trwy’r amser, bob dydd.

I bron i bedwar o bob pump (79%) mae’r boen yn cael ei thrin gyda meddyginiaethau sy’n gallu achosi sgil-effeithiau gwael o’u gor-ddefnyddio.

Mae amcangyfrif bod 8.75 miliwn o bobol yn byw yng ngwledydd Prydain gyda chyflyrau cymalau fel osteoporosis, a chredir bod y nifer ar gynnydd.

Mae dros hanner, 53%, yn agored i drio meddyginiaethau naturiol, a thros draean, 36%, yn dweud ei fod yn gynllun pendant ganddyn nhw i drin eu poen gyda dewisiadau naturiol.

Er iddynt fod y grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o ddioddef o boen dyddiol a parhaol yn y cymalau, mae pobol dros 55 ychydig yn llai parod i fentro gyda thriniaethau naturiol.

Mae’r ganran yn 25% o bobol dros 55 oed, ac yn 41% i bobol rhwng 16-24.