Mae’r diffyg data sydd ar gael am les staff orifysgolion gwledydd Prydain yn “syfrdanol,” yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae’r gwaith ymchwil gan Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) yn amlygu’r angen i wahaniaethu rhwng iechyd meddwl a lles, a bod angen casglu gwybodaeth ar wahân oherwydd bod cymysgu’r ddau yn gallu effeithio ar y ffordd y mae mynd i’r afael â’r ddau beth.

“Os ydyn  ni am fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl mewn prifysgolion, mae angen i ni fod yn casglu’r wybodaeth gywir i’w deall,” meddai cyfarwyddwr polisi ac eiriolaeth Sefydliad Polisi Addysg Uwch, Rachel Hewitt.

“Mae’n frawychus nad oes gennym unrhyw wybodaeth gyhoeddus am les staff sy’n gweithio yn ein prifysgolion.”