Mae dau ddyn wedi marw a dau arall wedi’u hanafu ar ôl i wal ddymchwel ar fferm yn yr Alban.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar fferm ger Whitecross yn ardal Falkirk, tua 10.10yb ddydd Llun (Mai 6).
Dywedodd Heddlu’r Alban bod dau ddyn wedi cael anafiadau difrifol ac wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae’r ddau ddyn arall wedi cael anafiadau sydd ddim yn bygwth eu bywydau.
Cafodd un ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Brenhinol Caeredin a chafodd y dyn arall ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty’r Frenhines Elizabeth yng Nglasgow.
Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth ddigwyddodd ac mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi’u hysbysu.