Mae bywyd gwyllt a’u cynefinoedd yn diflannu ar raddfa “digynsail” drwy’r byd ac mae hynny’n bygwth pobol yn uniongyrchol, mae astudiaeth wedi rhybuddio.

Mae hyd at filiwn o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid mewn perygl o ddiflannu – y nifer fwyaf erioed.

Fe allai nifer ddiflannu o fewn degawdau, yn ôl asesiad y Cenhedloedd Unedig.

Mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod y byd naturiol yn dirywio yn gynt nag erioed a hynny o ganlyniad i weithredoedd dyn, gan erydu “seilwaith” economïau, bywoliaethau, bwyd, iechyd a safon byw yn fyd eang.

Mae angen trawsnewidiad anferth ar draws yr economi a chymdeithas i ddiogelu ac adfer natur, yn ol gwyddonwyr.

Heb y “newid trawsnewidiol” fe fydd y difrod yn parhau i waethygu hyd at 2050 a thu hwnt gan fygwth lles dynoliaeth o gwmpas y byd, meddai’r astudiaeth.

Cafodd yr astudiaeth ei wneud dros gyfnod o dair blynedd gyda mwy na 450 o arbenigwyr o 50 o wledydd yn gysylltiedig.

Mae wedi bod yn edrych ar y newidiadau i’r byd naturiol dros y pum degawd diwethaf – yn ystod y cyfnod yma mae’r boblogaeth wedi dyblu ac mae’r galw am ynni a deunyddiau wedi cynyddu’n sylweddol.

Y difrod mwyaf sydd wedi bod i fywyd gwyllt yw’r newid yn y ffordd mae’r tir a’r môr yn cael eu defnyddio yn ogystal â newid hinsawdd, a llygredd.