Mae dyn 18 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ne ddwyrain Llundain.
Cafodd yr heddlu eu galw i Southwark tua 9.30yh nos Sul (Mai 5).
Bu farw’r dyn yn yr ysbyty toc cyn 11yh.
Dywed yr heddlu bod y dyn yn cael ei ddilyn gan ddyn arall ychydig cyn yr ymosodiad.
Nid oes unrhyw un wedi’u harestio ond mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ac yn gwneud ymholiadau o dy i dy.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.
Hyd yn hyn eleni, mae 28 o bobol wedi marw ar ôl cael eu trywanu yn Llundain.