Mae swyddogion yr heddlu fu’n chwilio am ddyn ar ffo mewn cysylltiad â thri achos o gipio a threisio, wedi arestio dyn dros nos.

Mae’n debyg bod Joseph McCann wedi cael ei arestio ger Congleton, Swydd Caer yn hwyr nos Sul (Mai 5).

Fe ddechreuodd y chwilio am Joseph McCann ar ôl i ddwy ddynes gael eu gorfodi i mewn i gar tua 6.45yh nos Sul.

Cafodd y cerbyd ei ddilyn gan yr heddlu cyn iddo daro car arall – fe lwyddodd y gyrrwr i ffoi.

Dywedodd yr heddlu bod y ddwy ddynes mewn sioc ond nad oedden nhw wedi’u hanafu yn y digwyddiad.

Yn ôl Heddlu Swydd Caer roedd swyddogion wedi dod o hyd i ddyn roedden nhw’n chwilio amdano mewn cysylltiad ag achosion o gipio a threisio.

Roedd ditectifs Scotland Yard eisoes wedi lansio ymchwiliad am ddyn oedd yn cael ei amau o gipio a threisio dwy ddynes yn eu hugeiniau yng ngogledd Llundain ar Ebrill 25 mewn dau ddigwyddiad ar wahân.

Mae’r dyn hefyd yn cael ei amau o gipio dynes 21 oed a’i bygwth gyda chyllell yn Watford yn oriau man Ebrill 21 a’i threisio.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio adolygiad brys ar ôl iddi ddod i’r amlwg y gallai Joseph McCann fod wedi cael ei ryddhau o’r carchar ar gam ym mis Chwefror.

Roedd Scotland Yard wedi cynnig gwobr o £20,000 am wybodaeth a fyddai’n arwain at ei arestio a’i erlyn.