Mae tua 1,000 o weithwyr yn ffatri siocled Cadbury wedi derbyn cynnig cyflog tair blynedd.
Mae’r fargen, sy’n cael ei disgrifio gan undeb Unsain fel “pecyn da” ar gyfer pawb sy’n gweithio yn safleoedd y cwmni yn Birmingham, y Waun ger Wrecsam, ac yn Marlbrook, Swydd Henffordd.
Fel rhan o’r ddêl, sy’n rhedeg o fis Mawrth eleni tan Fawrth 2022, fe fydd gweithwyr yn derbyn codiad cyflog o 2.7% yn y flwyddyn gyntaf, a chodiadau eto yn y ddwy flynedd arall sy’n unol â graddfa pris y farchnad (RPI).
Fe bleidleisiodd 75% o’r gweithlu o blaid y cynnig.