Mae’r rheiny sydd am weld pŵer yn cael ei ddatganoli i Gernyw yn wynebu “sefyllfa letchwith”.

Dyna farn, Dick Cole, arweinydd plaid Mebyon Kernow (Meibion Cernyw yn Gymraeg) a Chynghorydd ar Gyngor Cernyw.

Mae’n egluro bod ei blaid yn ymgyrchu tros gael Cynulliad i Gernyw, ac mae’n credu y byddai Deyrnas Unedig “fwy ffederal” yn “beth ffantastig”.

Er bod “rhai pobol” yng Nghernyw, meddai, eisiau annibyniaeth lwyr, dyw’r blaid ddim yn ymgyrchu tros hynny. Ac mae’n dweud bod eu hamcanion yn “eithaf uchelgeisiol” ta beth.

Cafodd cyngor Cernyw ei ddiwygio deg blynedd yn ôl, a phryder Dick Cole yw bod hynny wedi tanseilio’r gobeithion am Gynulliad.

“Mae pobol yn ceisio esgus bod y cyngor yn fwy na chyngor,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r pleidiau Llundeinig yn manteisio ar hynny, ac yn gwrthod cefnogi datganoli go iawn – Cynulliad Cernywaidd. Yn wahanol i Gymru a’r Alban, rydym mewn sefyllfa ofnadwy.

“Pan rydych yn siarad am ddatganoli yng Nghernyw, yn aml mae yng nghyd-destun [Cyngor] Cernyw.

“Yn hytrach na thrafod datganoli pwerau go iawn o Lundain, mae pobol yn canolbwyntio ar ddatganoli pwerau tros dai bach cyhoeddus i gynghorau cymuned.”

Agweddau

Mae pobol Cernyw yn cefnogi datganoli yn ôl Dick Cole, ac mae’n cyfeirio at ymgyrch o’r gorffennol.

Mae’n sôn am ddeiseb a gafodd ei lofnodi gan 50,000 o bobol yn 2001 yn galw am Gynulliad i Gernyw, ac mae’n galw hynny yn “gyrhaeddiad ffantastig.”

Er hynny, mae’n cydnabod bod mudiad cenedlaetholgar Cernyw yn wannach nag y mae yng Nghymru.

“Dyw e ddim wedi cael traction ledled y Deyrnas Unedig,” meddai. “Ond yng Nghernyw, mae’r rhan fwyaf o bleidiau yn defnyddio terminoleg datganoli.

“…Ledled Cernyw mae pobol yn derbyn y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn lleol. Er hynny, mae rhai yn dadlau nad oes angen rhagor o wleidyddion arnom.”

Roedd Dick Cole yn fyfyriwr yn Llambed yn yr 1980au, ac mae’n dweud bod pobol Cernyw yn teimlo agosatrwydd at eu brodyr Celtaidd: “Rydym yn meddwl yn fawr o Gymru.”